Na i Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru!

David Cameron spoof driving licence

Dyma sut fyddai Trwydded Dai Cameron yn edrych!

Mae Plaid Cymru Ifanc yn llawn gefnogi’r ymgyrch ddiweddaraf i wrthod rhoi Jac yr Undeb ar drwyddedi gyrru yn Nghymru, yr Alban ac yn Lloegr. Mae’r cynllun yn bwriadu rhoi baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd o fis Ionawr 2015 ymlaen. Ni fydd y cynllun yn cael ei weithredu yng Ngogledd Iwerddon, ac mae’n mynd yn groes i arfer y rhan fwyaf helaeth o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd sy’n dangos baner yr UE yn unig. Mae’n gwbl amlwg bod hyn yn dacteg gan lywodraeth Cameron i ymateb i obsesiwn UKIP gyda mewnfudo a’r Undeb Ewropeaidd, plaid sy’n prysur gymryd cyfran helaeth o gefnogaeth y pleidiau mawr unoliaethol.

Mae ffigurau amlwg ym Mhlaid Cymru, fel Elfyn Llwyd, wedi beirniadu’r cynllun fel un “ansensitif”. Dywedodd AS Dwyfor Meirionydd y byddai’n arwain at “wrthdaro” ac y byddai’n “gam difrifol yn ôl.”

Dangoswch eich gwrthwynebiad chi i’r cynllun hwn trwy arwyddo’r ddeiseb isod! Dywedwn Na i lywodraeth Brydeinig sydd am wthio Prydeindod arnom!

https://you.38degrees.org.uk/petitions/cadw-jac-yr-undeb-o-r-drwydded-gymreig-no-union-jack-on-welsh-licences

Filed under: Uncategorised

Have your say

  1. dorothy jones says:

    DIM Jac yr Undeb ar y drwydded gyrru

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *