La independència és possible! (Mae annibyniaeth yn bosib!)

Dyddiadur o’r trip i gynhadledd JERC ym Marcelona gan Fflur Arwel

Ym mis Awst 2014 fe dderbyniodd Plaid Cymru Ifanc wahoddiad gan Chwith Gweriniaethol Ifanc Catalwnia (JERC) i gynhadledd ar ddemocratiaeth a gafodd ei chynnal rhwng y 5ed a’r 7fed o Fedi 2014.  Cafodd Daniel Rhys Roberts a minnau’r fraint o gael mynychu, a dyma ddyddiadur bach ysgrifennais i o’n hanes ni ym Marcelona!

programa“O Gaerdydd i Gatalwnia” (Dydd Iau, Medi 4ydd 2014)

Roedd hi dal yn dywyll pan godais yn gynnar y bore hwnnw o Fedi. Ymestynnai llewyrch y wawr yn araf ar draws y gorwel yn haenau tenau o binc a glas ond, yn wahanol i mi, roedd gan yr haul dal cyfle i bendwmpian cyn bod rhaid iddo yntau godi. Ond roedd taith hir o ‘mlaen i heddiw!

Od iawn oedd gweld y ddinas fawr yn gorwedd mor fud â llonydd fel petai poenau a helyntion y diwrnod oedd o’i flaen ddim eto wedi ei gyffwrdd. Yn debyg iawn, doedd helyntion y diwrnodau oedd o’m mlaen innau ychwaith ddim eto wedi dyfod ac roedd yr holl anturiaethau a’r holl bobl yr oeddwn am eu cwrdd yn ddim ond posibiliadau ar yr awel.

Ond, os cymylog oedd yr awyr ym maes awyr Bryste, fe ddisgleiriai’r haul yn braf ac yn addfwyn ym Marcelona bell wrth i’r awyren fechan lanio yn daclus yn y maes awyr. Yn wir, roedd camu oddi ar yr awyren yn teimlo fel camu o un byd i fyd arall.

Roedd un o aelodau JERC wedi trefnu i gwrdd â ni yn y maes awyr ac yn siŵr i chi dyma weld yn syth wrth y fynedfa rhywun yn chwifio baner JERC yn barod i’n croesawu ni!

O’r dechrau, roedd criw JERC mor gymwynasgar a chlên hefo ni. Rhoddodd Max lifft i ni o’r maes awyr i ganol y ddinas ble safai’r hostel roedden nhw wedi trefnu ar ein cyfer ac wrth sgwrsio yn y car am y gynhadledd dyma ddeall byddai wyth gwlad yn cael eu cynrychioli i gyd. Byddai Cymru a Chatalwnia wrth gwrs, ac yna cynrychiolwyr o Norwy (‘Ifanc Coch’ neu ‘Raud Ungdom’), Denmarc (SFU), Iwerddon (Ifanc Gweriniaethol Sinn Fein), Galicia (Galicia Nova), y Ffindir (Chwith Ifanc y Ffindir neu ‘Vasemmistonouret’), Groeg (Syriza) a chynrychiolwyr o Wlad y Basg (Gazte Abertzaleak) hefyd.

Wedi cyrraedd yr hostel a gwneud ein hunain yn gartrefol fe gawsom gyfle i grwydro ac i fynd am ambell ddiod gyda Max mewn bar bach gerllaw. Roedd hi’n hwyr yn y dydd erbyn hyn ond doedd dim tawelu cynnwrf a phrysurdeb y ddinas fawreddog. Fe sgwrsion ni am ein sefyllfa ni yma yng Nghymru – o’r modd mae datganoli erbyn hyn yn siapio ein naratif gwleidyddol ni, a’r modd yr ydym yn parhau i gael ein tanariannu gan lywodraeth San Steffan. Dyma holi hefyd am sefyllfa Catalwnia. Roedd y sefyllfa yn un go gymhleth, eglurodd Max. Ar hyn o bryd, roedden yn gwthio am yr hawl i gynnal refferendwm ar annibyniaeth – rhywbeth roedd Sbaen yn gwrthod ei roi iddynt. Erbyn hyn wrth gwrs, fe gynhaliwyd refferendwm ‘ymgynghorol’ ar annibyniaeth a bu hwnnw yn llwyddiant ysgubol gyda 81% o’r sawl a bleidleisiodd yn pleidleisio o blaid annibyniaeth i Gatalwnia. Gwrthododd Sbaen ei gydnabod a hyd heddiw maent yn gwrthod cydnabod hawl pobl Catalwnia i fod yn annibynnol.

 

“Dechrau’r Gynhadledd!” (Dydd Gwener, Medi 5ed 2014)

Yng nghanol y nos, fe gyrhaeddodd tri cynrychiolydd arall – dau o’r Ffindir ac un o wlad seu nacionalGroeg ac, wedi cysgu’r daith y diwrnod blaenorol i ffwrdd, dyma ddweud ‘helo’ i’n cyfeillion newydd!

Sgwrsion ni’n ddiwyd am wleidyddiaeth a sefyllfaoedd ein gwledydd a’n pleidiau bob yn ail a finnau’n meddwl pa mor hyfryd oedd o i allu cyfarfod a phobl eraill oedd o’r un genhedlaeth a ni ac yn rhannu syniadau tebyg ond oedd yn dod o wledydd gwahanol efo hanesion gwahanol.

Yna, daeth yr amser i ni wneud ein ffordd i bencadlys Esquerra a JERC ar gyfer cyflwyniad gan aelodau o JERC i’r holl gynrychiolwyr er mwy agor y gynhadledd. Rhoddodd criw JERC daith sydyn i ni o amgylch bencadlys Esquerra a JERC – adeilad modern a chrand iawn yr olwg. Ar wal un o’r swyddfeydd yn y pencadlys fe welon ni boster go drawiadol hefyd yn datgan ‘La Independència és Possible’ (Mae Annibynniaeth yn Bosibl). Dyma feddwl wedyn – wrth gwrs, drwy ddatgan y geiriau hyn gyda’r fath hyder mae’n bosibl ei droi o gysyniad i realiti. Mae’n cymell trafodaeth ac yn annog pobl i gwestiynu a herio’r ‘status quo’ a dyma yn union y dylem ninnau fod yn ei wneud!

Wedi’r daith, fe roddodd rhai o griw JERC – Ariadna Jou a Gerard Gomez, gyflwyniad byr i ni o bwrpas y gynhadledd a sefyllfa bresennol Catalwnia a JERC. Prif ganolbwynt trafod y gynhadledd fyddai i drafod democratiaeth a’r hawl i benderfynu ac i hunanlywodraeth – priodol iawn wrth gwrs o ystyried fod Sbaen yn gwahardd unrhyw hawl i Gatalwnia benderfynu ei dyfodol ei hun.

Wrth wrando ar y cyflwyniad, doeddwn i methu a pheidio edmygu JERC a’r modd yr oedden nhw yn llwyddo i greu ymdeimlad o fwrlwm a chyffro o fewn eu mudiad. Edmygais yn fawr yr angerdd oedd ganddyn nhw dros eu hachos a dyfodol eu gwlad a’r modd yr oeddent yn llwyddo i draethu mewn modd mor hyderus a chryf.

 

“Youth for Demcoratic Revolution!” (Dydd Sadwrn, Medi 6ed 2014)

Disgleiriodd yr haul yn danbaid wych ar draws y ddinas ar fore’r gynhadledd wrth i ni wneud ein ffordd i’r neuadd ble byddai’r gynhadledd – ‘Youth for Democratic Revolution’, yn cael ei gynnal. Agorwyd y gynhadledd gan Ariadna Jou a Ruben Borrás o JERC i ddechrau ac yna fe gafodd pob cynrychiolydd o bob plaid gyfle yn eu tro i gyflwyno eu hunain gan gynnig ychydig o gyd-destun a chefndir i sefyllfa wleidyddol bresennol eu gwlad a’u plaid. Yn wir, un o’r pethau difyrraf am y daith oedd y cyfle arbennig gafwyd i gyfarfod a chynrychiolwyr ifanc o bleidiau gwleidyddol asgell chwith o bob ban Ewrop a difyr iawn hefyd oedd gweld cymysgedd o gynrychiolwyr nid yn unig o ‘genhedloedd di-wladwriaeth’ ond hefyd o wladwriaethau annibynnol.

Yna, fe gawsom ein trefnu i mewn i grwpiau er mwyn trin a thrafod yn fanylach. Yn gyntaf, fe drafodwyd systemau democrataidd ym mhob un o’n gwledydd ni ac yn Ewrop yn gyffredinol. Rhoddwyd tipyn i gnoi cil arno wrth gwestiynu pa mor ddemocrataidd oedd pob gwlad mewn gwirionedd? Yna, fe symudodd y drafodaeth ymlaen i drafod ‘Symudiadau Democrataidd’ a pha symudiadau oedd wedi dylanwadu ar yr Ewrop rydym yn byw ynddo heddiw gan roi gofod i ni gymharu symudiadau democrataidd gwahanol.

Wedi cinio, cynhaliwyd gweithdy i drafod am ddemocratiaeth y bobl, eu hawl i benderfynu dyfodol eu hunain, ac i drafod hefyd achos Catalwnia. Cafwyd trafodaeth eang, fanwl a chyfle i bawb rhoi eu mewnbwn er mwyn cyrraedd y brif nod o roi dogfen at ei gilydd i grynhoi popeth a drafodwyd yn ystod y gynhadledd.

Un frawddeg wnaeth sefyll allan i mi yn benodol yn ystod y drafodaeth oedd pan ddisgrifiodd Ariadna y modd maen nhw’n gweld annibyniaeth fel ‘offeryn’ ar gyfer hunanlywodraeth lawn, gan ddatgan yn glir mai un o hawliau cynhenid pobloedd unrhyw genedl yw llywodraethu eu hunain.

Cytunwyd ar saith prif bwynt i’w cynnwys yn y ddogfen sef –

  1. Democratiaeth ddylai reoli’r economi. Mae angen yr offerynnau arnom ni i ddemocrateiddio’r economi er budd y bobl ac nid elw.
  2. Rydym yn cefnogi cydweithrediad o genhedloedd Ewrop, felly mae angen chwyldro democrataidd er mwyn trawsnewid y model hwn a chreu Ewrop decach a chynaliadwy sydd wir yn gofalu am bobl ac nid am gwmnïau mawr, banciau a lobïwyr, sydd yn seiliedig ar undod a chydweithrediad rhwng cenhedloedd.
  3. Mae angen am ddemocratiaeth go iawn, un sydd yn fwy uniongyrchol, fwy cyfranogol, ac yn fyw tryloyw. Mae gan bobl yr hawl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol, nid dim ond i hyrwyddo pleidleisio, ond hefyd o ran y broses a’r drafodaeth i adeiladu’r ddemocratiaeth go iawn hwn.
  4. Mae’r symudiadau democrataidd a chymdeithasol sydd yn nwylo’r gymdeithas sifil gyda’r hawl i newid y sefydliad a’r sefyllfa sydd ohoni, ac yn arf enfawr i rymuso pobl a rhoi’r gallu iddynt ddylanwadu’r system gyfan.
  5. Rhaid ymgynghori’r gymdeithas ynghylch prif faterion eu cenedl, gan roi iddynt yr hawl a’r gallu i benderfynu a gwneud eu barn yn realiti, tra’n parchu hawliau dynol ac egwyddorion democrataidd.
  6. Mae hawl y bobl i benderfynu yn hawl ddemocrataidd sylfaenol. Rydym yn cefnogi hawl pobl i benderfynu yn ogystal â’u hawl i hunan-benderfyniad. Gall sofraniaeth cenedl ond gael ei phenderfynu gan y genedl honno.
  7. Rydym yn cefnogi hawl pobl Catalonia i bleidleisio ac i benderfynu eu dyfodol eu hunain yn y refferendwm fydd yn cael ei gynnal ar y 9fed o fis Tachwedd 2014. Hefyd, bydd rhaid i’r canlyniad gael ei barchu gan y gymuned ryngwladol fel penderfyniad rhydd, democrataidd y bobl.

acordCynhaliwyd cynhadledd i’r wasg i gyflwyno ein dogfen ar ddiwedd y dydd ynghyd a sesiwn Cwestiwn ac Ateb.  Wedi hynny, fe heidiodd pawb i’r ‘Popular Open Air Dinner’ oedd wedi ei drefnu gan JERC ar do Museum D’Historia Catalunya. Roedd yr awel yn gynnes a chlos a’r awyr yn glir uwchben wrth i’r ddinas ddisgleirio o’n hamgylch a ninnau yn ein tro yn mwynhau awyrgylch y parti gan yfed a bwyta bwyd a diod traddodiadol Catalanaidd.

A dyma finna’n meddwl pa mor wych oedd hyn oll. Er bod sefyllfaoedd gwleidyddol ein gwledydd yn gallu bod yn anodd a chymhleth, roedd mor braf gallu chwerthin a chymdeithasu a mwynhau gyda’n gilydd fel hyn.

 

“Crwydro’r Ddinas” (Dydd Sul, Medi 7fed 2014)

Y diwrnod canlynol roedd criw JERC wedi trefnu ychydig bach mwy o weithgareddau i ni i gloi’r penwythnos. Wedi cinio al fresco hamddenol dan gysgod y coed ym Mharc de La Ciutadella fe gawsom y fraint o gael ein tywys o amgylch ‘yr hen ddinas’ gan Alfred Bosch – aelod o gyngres Sbaen i Esquerra.

Canol yr hen ddinas yw’r ‘Gothic Quarter’ neu’r ‘Barri Gòtic’. Ardal hardd, dawelach o’r ddinas yw hi gyda strydoedd bychain fel drysfa yn arwain i sgwariau bach anial. Roedd baneri Catalwnia i weld ym mhob man yma y cerddom ni a phosteri Esquerra wedi eu plastro ar hyd y waliau. Wrth ein tywys ni o gwmpas yr ardal, fe rannodd Alfred Bosch hanes Catalwnia i ni gan ddangos fod llawer o adfeilion yr hen, hen ddinas dal i’w gweld – a rheiny yn adfeilion gwerthfawr tu hwnt. Eglurodd hefyd arwyddocâd eu Diwrnod Cenedlaethol nhw sy’n cael ei gynnal ar yr 11eg o Fedi yn flynyddol. Mae’n coffau Catalwnia yn cael eu trechu yn ystod ‘Rhyfel Olyniaeth Sbaen’ a gorchfygu milwyr Catalwnia fu’n ymladd dros ei rhyddid hi yn ystod Gwarchae Barcelona a barhaodd dros 14 mis. Wedi diwedd y daith dyma ddiolch i Alfred Bosch am ei amser gan ysgwyd ei law – ac yntau yn anfon ei gofion at Jill Evans ASE!

Ar ôl swper gyda chriw Sinn Fein fe aethom wedyn i gwrdd ag Emyr oedd wedi gado dangos darnau o’r ddinas i ni cyn i ni ymadael. Dalion ni’r metro o La Rambla ym mhell i gyrion y ddinas ac wedi peint mewn sgwâr tawel dyma fentro i ddringo fyny allt faith ardal ddosbarth gweithiol a hanesyddol El Carmel.

Ac o, heb ddim gair o gelwydd, roedd yr olygfa yn anhygoel.carmel

Ymestynnai’r ddinas o ‘nghwmpas i mor anferth ac eang – gallwn i weld Barcelona i gyd o fan hyn.  Safai’r ddinas yno o ‘mlaen – llafur pobl yn ei holl odidowgrwydd – o’r strydoedd hirfaith sgwâr, harddwch Montjuic, adeiladau estron y swyddfeydd gwydr, i dyrrau diamser y Sagrada Família. Fel pryfed cop, dyma oedd dyn a’i ddwylo wedi ei weu a’i greu – clamp o ddinas anhygoel.

Tawel oedd copa’r allt – gyda dim ond sŵn bloeddio canu yn y pellter tu ôl i ni a maint y ddinas o’m blaenau ni yn dawel a llonydd. Ond eto, roedd hi’n fyw dan olau a bywyd a gwyddwn fod cynnwrf a chyffro hyd yn oed yma yn nhawelwch yr olygfa.  Ac yn wir i chi, wnâi byth anghofio’r noson honno o sefyll ar ben y bryn yn El Carmel o flaen dawnsio’r ddinas yn llonyddwch y nos fwyn a’r byd i gyd yn teimlo mor agored ac unrhyw beth yn bosibl.

 

“Digwyddodd darfu, megis seren wib” (Dydd Llun, Medi 8fed 2014)

Daw diwedd i bopeth da ac o’r diwedd fe ddaeth yr awr i ninnau hefyd ffarwelio. Teimlai pob ennyd fel tywod yn llithro drwy fy mysedd wrth i ni wibio yn ôl ar hyd y draffordd tua’r maes awyr.  O gar i awyren i fws ac mewn chwinciad roeddem yn ôl eto yng Nghymru ble ddechreuodd ein taith.

A’m mhen yn troi dan flinder a fy nghalon yn hiraethu am lesni addawol Catalunya bell, dringais ar gerbyd yr hen drên Arriva yng ngorsaf drên Caerdydd gan lusgo fy nghês bach ar ei hyd. Wrth eistedd i lawr mewn sedd fach dawel yn y gornel yng nghanol prysurdeb fy nghyd-deithwyr teithiodd fy nghof yn ôl i ganol haul Catalwnia ac i’r ysbryd ac i’r gobaith a deimlais yno oedd bron fel ail ffynhonnell o egni i’r ddinas.

A dyma deimlo rhyw gymysgedd od o dristwch a hapusrwydd chwerwfelys a theimlo hefyd mor ddiolchgar o fod wedi bod. Oherwydd profodd y daith yn un hynod o ddiddorol a difyr – ac yn dipyn o agoriad llygaid hefyd.

Cawsom gyfle i gymdeithasu a chyfnewid syniadau a phrofiadau gyda grŵp eang ac amrywiol o bobl ifanc o bleidiau gwleidyddol chwith o bedwar ban Ewrop gan greu o bosibl cysylltiadau rhyngwladol hir dymor. Roedd JERC a’r bobl ifanc eraill wnaethom eu cyfarfod ni yn hyfryd – roddent yn bobl ifanc deallus ac yn llawn egni a brwdfrydedd gan lwyddo i gydbwyso syniadau gwleidyddol treiddgar gyda brawdoliaeth a chwerthin!  Rwy’n gobeithio yn wir y gwnawn aros mewn cysylltiad gyda hwy.

Yn wir, fe gawsom hefyd ein hysbrydoli i’r eithaf gan ddychwelyd yn ôl ar dân gyda syniadau newydd ar gyfer Plaid Cymru Ifanc. Achos mae ‘na gyfnod newydd ar droed, ac mae rhaid i ninnau fod yn barod i gymryd dyfodol ein gwlad i’n dwylo ein hunain. I alluogi hyn mae angen i ni ysgogi symudiad cymdeithasol-wleidyddol ar gyfer pobl ifanc Cymru ar raddfa genedlaethol. Pobol ifanc Cymru yn wir yw ei dyfodol hi. Mae lle yma i ddod o hyd i lais ein hunain ac i gyfrannu at dyfiant symudiad newydd ac ifanc am annibyniaeth ar gyfer Cymru hefyd.

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *