Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Banksy BethlehemHoffem fel Pwyllgor Cenedlaethol ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal, hoffem ddangos ein cefnogaeth i bob un yng Nghymru sy’n dioddef unigedd, tlodi a thrais yn y cartref y Nadolig hwn. Yn olaf, dymunwn sefyll gyda’n chwiorydd a’n brodyr ar draws y byd sy’n brwydro i ddiweddu gorthrwm a gobieithiwn y bydd 2015 yn flwyddyn lewyrchus i bob un sy’n ysu am gyfiawnder cymdeithasol a rhyddid.

 

Filed under: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *